Hapusach ynghyd

Fflatiau Gofal Cydymaith newydd ym Mharc Bryn Seiont, Caernarfon

Yn hybu annibyniaeth ac yn cyfoethogi bywydau cyplau, ac unigolion


Dyma gymuned newydd lle gall cymdeithion fyw gyda'i gilydd. Fe'i hadeiladwyd ar gyrion Caernarfon gan y Sefydliad Gofal nodedig Parc Pendine, a dyma'r gymuned gyntaf o'i math yng Nghymru.

Mae'n cynnig cyfle i gyplau, neu ddau gydymaith, fyw yn eu fflat eu hunain gyda'i gilydd ac yn gwmni i'w gilydd mewn amgylchedd cymunedol, cefnogol. Mae yma hefyd fflatiau ac ystafelloedd gwely sengl ar gyfer unigolion.

Mae Parc Bryn Seiont yn gartref gofal cofrestredig gyda gwahaniaeth, sydd wedi'i leoli y drws nesaf i Fryn Seiont Newydd, a enillodd wobr Pinders am y cartref newydd gorau yn 2016. Gan ddiwallu anghenion y gymuned, mae'r fflatiau'n cefnogi ffordd annibynnol o fyw pan fydd gan un o'r bobl, neu'r ddau ohonynt, anghenion gofal ac mae'n dymuno byw gyda phartner neu gydymaith.

Mae staff cyfeillgar wedi'u hyfforddi i lefel uchel ar gael 24 awr y diwrnod i ddarparu'r holl gymorth sydd ei angen. Mae'n cynnig y gorau o ddau fyd i unigolion, partneriaid, cymdeithion a theuluoedd sy'n pryderu am ofal a lles eu hanwyliaid.

Byw bywyd llawn, ynghyd

Mae'r fflatiau braf wedi'u hadeiladu i'r safonau uchaf. Yn y fflatiau dwy ystafell wely, ceir dwy ystafell ymolchi a lolfa breifat wedi'i haddurno mewn lliwiau ysgafn, golau. Ceir hefyd cegin â digonedd o offer ac ardal fwyta.

Mae'r tu mewn yn agor allan ar erddi hardd a diogel sy'n cael eu cynnal yn dda. Ceir hefyd lolfeydd mawr a chaffis lle gall pobl ddod at ei gilydd i fwynhau.

Os ydych chi'n dymuno, gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cyfoethogi i hybu lles. Mae'r rhain yn cynnwys celf, cerddoriaeth, hel atgofion, ymarfer corff, natur a bywyd gwyllt, gwallt a harddwch a llawer mwy.

Mae'n gysyniad unigryw ac arloesol lle gall pobl aros gyda'i gilydd, neu ddod yn ôl at ei gilydd, pan fydd gan o leiaf un ohonynt anghenion gofal.

Mae'r gymuned mewn lleoliad tawel, braf. O'i chwmpas ceir pum acer o erddi, coed a chefn gwlad.

Mae'n lle delfrydol a gwledig, ond mae hefyd gerllaw'r holl fwynderau lleol y byddech chi'n dymuno'u cael.

Parc Bryn Seiont, Ffordd Pant, Caernarfon, Gwynedd LL55 2YU ffôn: 01286 476676